Lleoliad y cyfarfod:
Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
1 Ebrill 2020
Amser y
cyfarfod: 14.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6267
------
Dechreuodd yr eitem am 14:00
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir cyntaf o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd darpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys o ran cworwm, pleidlais wedi’i phwysoli a datgymhwyso’r gofynion ar gyfer cwestiynau llafar.
Rhoddodd hysbysiad, hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.17, nad oedd yn ymarferol i'r cyfarfod gael ei ddarlledu'n fyw. Bydd recordiad ar gael ar Senedd TV cyn gynted â phosibl ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben a chyhoeddir cofnod o'r trafodion yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodai eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd bod Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i’r cyfarfod hwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.03
Dechreuodd yr eitem am 14.05
Dechreuodd yr eitem am 14.58
Dechreuodd yr eitem am 15.58
Diolchodd y Llywydd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu gwaith wrth gynnal y sesiwn arbennig hon o’r Cyfarfod Llawn, a dywedodd bod atebolrwydd democrataidd yn parhau i wella, hyd yn oedd yn ystod yr adegau mwyaf heriol hyn ac y byddwn yn parhau i gynnal sesiynau rhithwir o’r Cyfarfod Llawn cyhyd ag y bydd angen.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.42
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am Time Not Specified, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2020